Heron - thanks for the further info that Stonehenge was called 'Co^r y Cewri' in Welsh. What does Co^r mean?
Many things! As this entry from the University of Wales Dict shows:
côr1 [Llyd. c. cor, cf. Gwydd. cor ‘tafliad, gosodiad; tro, pleth; symudiad, naid; cytundeb; cylch; cainc, alaw’, a cór ‘corw, côr’]
eg.b. ll. corau.
1. a Corff o gantorion mewn eglwys, llu o angylion, cwmpeini o feirdd; cynulliad (o grefyddwyr, saint, proffwydi, &c.), cyngor; llwyth, torf; cymdeithas neu gwfaint o wŷr llên; yn ddiw. corff o gantorion yn ymgynnull tan arweinydd i ddysgu a chydganu rhyw ddarnau neu weithiau cerddorol yn aml ar gyfer cystadleuaeth, yn dros. weithiau am lu o adar cân:
choir in a church, host of angels, company of bards; assembly, council; tribe, host; religious community; choir, choral society.
b Cynulliad neu gwfaint o grefyddwyr a oedd yn ysgol hefyd (ystyr a roed i’r gair gan Iolo Morganwg):
a society that was both a convent and a seminary, conventual college.
c Cymdeithas o wŷr yn perthyn i ryw alwedigaeth ddysgedig, e.e. meddygon:
faculty, profession.
2. Preseb, stâl, safle neu orweddle (buwch, ych, asyn, ceffyl, &c.) mewn beudy neu ystabl lle y clymir ac y porthir y creadur:
crib, stall.
3. a Sêt mewn eglwys neu gapel, yn enw. un gaeedig a drws iddi, sedd mewn theatr, &c.:
pew (in church or chapel), stall, box (in theatre, &c.).
b Cadair ddarllen (mewn eglwys), lletring:
reading-pew, lectern.
4. Cân, cerdd:
song.
5. Cangell, cafell, cysegr; llys; cylch, cwmpas:
chancel, choir, sanctuary; court; circle, compass, range.
Cfn.:
• côr angylion: choir of angels.
côr asgellog: choir of birds (lit. winged or feathered choir).
côr bytheiaid: kennel or pack of hounds.
Côr y Cewri: Stonehenge (lit. the Giants’ Circle), name also applied to any similar prehistoric stone circle.
côr crefydd: body of men in holy orders, clergy.
côr y goedwig = côr y wig.
côr cymysg: mixed choir.
côr darllen: reading-pew.
côr eglwys: choir of a church, chancel.
côr gwartheg: cow-house.
côr y wig: the woodland choir (of birds).
côr hela, côr hely: kennel or pack of hounds.
côr meibion: male voice choir.
y côr mawr: the big pew, i.e. the deacons’ seat in a Nonconformist chapel.
y côr meddygol: the medical faculty or profession.
côr merched: ladies’ choir.
côr o glychau: peal or set of bells.
côr plant: children’s choir.show
côr ych(en): ox-stall, crib to feed oxen in.
côr ymadrodd: pulpit.